Llawlyfr Modiwlau

Page 1

MODIWLAU CYMRAEG A DWYIEITHOG Blwyddyn 1 2016/17


This booklet

Y llyfryn hwn

This booklet lists the Welsh-medium / bilingual modules that are available to first year students in 2016/17. Students can learn Welsh as part of their degree course or follow Welsh courses outside their formal studies.

Mae’r llawlyfr hwn yn cynnwys gwybodaeth am fodiwlau Cymraeg neu ddwyieithog sydd ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn 2016/17. Mae’n debygol y bydd rhai newidiadau ac ychwanegiadau i’r ddarpariaeth a nodir yma. Dylech gadarnhau pa fodiwlau sydd ar gael wrth i chi gofrestru yn ystod yr wythnos groeso. Fe fydd cynrychiolwyr yr ysgolion academaidd yn hapus iawn i ymateb i unrhyw gwestiwn ynglŷn â’r modiwlau sy’n cael eu cynnig ganddynt.

BASIC WELSH (these modules are not suitable for students who have gained a pass in Welsh GCSE second language)

YHC 1891 10 credits over 1 semester YHC 1394 20 credits over 2 semesters INTERMEDIATE WELSH YHC 1893 10 credits over 1 semester YHC 1393 20 credits over 2 semesters If you are not able to follow modules through the medium of Welsh, but would like to learn / improve your Welsh during your time at Bangor, there are many opportunities for you to do so including an evening class specifically for students. This is a 10 week course held on Wednesday evenings, 5 – 7pm starting on 29/9/16. For more information, please contact Bethan Glyn on emse02@bangor.ac.uk or 01248 388083

Bwrsariaethau Astudio trwy’r Gymraeg Fel rhan o’i hymdrech i gynyddu nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg, mae Prifysgol Bangor yn cynnig bwrsariaethau i gynorthwyo’r rheini sy’n dewis astudio rhan o’u cwrs, neu’r cwrs cyfan, trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae bwrsariaethau o £250 y flwyddyn ar gael i’r rhai sy’n dewis astudio mwy na 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Am yr amodau llawn, gweler www.bangor.ac.uk/studentfinance/info/ welshbursary.php.cy

CYMDEITHAS LLYWELYN Why not join Cymdeithas Llywelyn, the society for students who are learning, or who would like to learn, Welsh? Contact: ifan.james@myfyrwyrbangor.com

CYMORTH CYMRAEG / HELP WITH WELSH You will find useful resources on the Cymorth Cymraeg website, which contains useful templates, sound files etc, that have been developed to help staff and students use Welsh at the University: www.bangor.ac.uk/cymorthcymraeg

Ysgoloriaethau cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau gwerth £500 y flwyddyn ar gael ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Rhaid astudio 40 credyd y flwyddyn yn Gymraeg mewn pynciau penodol (chwiliwch am yr arwydd £ yn y llawlyfr). Holwch yn eich ysgol am fwy o wybodaeth, neu cysylltwch ag Eirian Jones ar e.jones@bangor.ac.uk


WYTHNOS GROESO 2016 Ffair astudio a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg Dydd Llun, 19 Medi 2016 Neuadd Powis 10am – 12.30pm Mae’r ffair hon yn arbennig ar gyfer myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg. Bydd yn gyfle i chi gyfarfod y darlithwyr sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac i ddarganfod mwy am y modiwlau cyfrwng Cymraeg/ dwyieithog sydd ar gael i chi. Bydd stondinau gan wahanol gymdeithasau yn y ffair a bydd yn gyfle da i gwrdd â myfyrwyr newydd eraill sy’n siarad Cymraeg. Dewch yn llu!

1


Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

Manteisiwch ar y cyfle i astudio drwy’r Gymraeg! DEWCH YN AELOD O’R COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL:

Mae Bangor yn arwain mewn datblygiadau addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac yn chwarae rhan amlwg yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Nod y Coleg yw:

• Am ddim! • Ymaelodwch ar-lein: www.colegcymraeg.ac.uk/cy/ymaelodi/ colegcymraeg/

• sicrhau mwy o gyfleoedd astudio i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg – mewn partneriaeth â’r prifysgolion

• Byddwch yn derbyn gwybodaeth am weithgareddau a datblygiadau’r Coleg, a manylion am gyfleoedd sy’n ymwneud ag astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

• ariannu, datblygu a hyfforddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer y dyfodol • ariannu ysgoloriaethau israddedig ac ôl-raddedig

Mae Cangen Bangor o’r CCC wedi’i lleoli yng Nghanolfan Bedwyr, yn Neuadd Dyfrdwy ar Ffordd y Coleg. Mae croeso cynnes i chi alw heibio i gael gwybodaeth am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor, neu i holi am wasanaethau cyfrwng Cymraeg. Yma, mae stiwdio fideogynadledda’r CCC, sydd wedi’i datblygu’n bwrpasol ar gyfer dysgu modiwlau ar y cyd â phrifysgolion eraill.

• cefnogi myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg • cynyddu’r nifer o fyfyrwyr sy’n dewis astudio’r cyfan neu ran o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg • datblygu modiwlau, cyrsiau ac adnoddau o’r radd flaenaf i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg

PAM ASTUDIO DRWY’R GYMRAEG? • Mae angen pobl ddwyieithog mewn pob math o swyddi • Mae gofyn mawr am bobl ifanc broffesiynol sy’n gallu gweithredu’n ddwyieithog • Mae cyflogau swyddi dwyieithog yn uwch ar gyfartaledd • Bydd astudio trwy’r Gymraeg yn y Brifysgol yn rhoi sylfaen ardderchog i’ch gyrfa

www.bangor.ac.uk/ccc www.colegcymraeg.ac.uk @cangenbangor @colegcymraeg 2

! e l f y c r ’ o r faw n y h c w e n Gw 3


Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) Llywydd: Ifan James UMCB ydy Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor. Mae’n agored i unrhyw un sydd am ymuno - yn siaradwyr Cymraeg, yn ddysgwyr, neu gyda diddordeb yn yr iaith neu’r diwylliant Cymreig. Mae dod yn aelod o UMCB, a chymryd rhan yn un o’n clybiau neu gymdeithasau, yn rhad ac am ddim. Yn ogystal â’r llu o weithgareddau cymdeithasol sy’n cael eu trefnu gydol y flwyddyn, mae UMCB yma i gefnogi a chynrychioli myfyrwyr Cymraeg sydd yn cael problemau gydag unrhyw agwedd o fywyd Prifysgol sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg. Rydym hefyd yn annog ac yn helpu myfyrwyr di-gymraeg i ddysgu’r iaith drwy greu cyfleoedd i siaradwyr rhugl a dysgwyr i gymdeithasu. Rydym yn hybu’r diwylliant Cymraeg i fyfyrwyr a staff y Brifysgol, ac am gryfhau statws yr iaith o fewn yr Undeb, y Brifysgol a’r gymuned leol.

Pwyllgor Gwaith UMCB Llywydd UMCB – Ifan James Llywydd JMJ – Gethin Morgan Cynrychiolydd yr 2il flwyddyn – Osian Owen Cynrychiolydd y 3ydd flwyddyn – Rhiannon Lloyd Williams Cynrychiolydd Galwedigaethol – Dewi Jones Y Cymric – Mirain Llwyd, Catrin Alaw Williams, Guto Griffiths, Huw Harvey Cysylltwch â ni:

ifan.james@myfyrwyrbangor.com UMCB

Cefnogi’ch astudiaethau

Datblygu Sgiliau Mae cyfleoedd i chi ddatblygu llawer o sgiliau tra yn y Brifysgol.

Canolfan Sgiliau Astudio Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a gynlluniwyd i hwyluso symud i’r Brifysgol ac i’ch helpu i elwa o’ch astudiaethau. Rydyn ni’n gweithio o fewn adrannau academaidd ac yn cynnig rhaglen o weithdai, ac mae modd cael rhagor o wybodaeth amdanynt ar ein gwefan. I wneud apwyntiad neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i bangor.ac.uk/studyskills; rhowch alwad i ni ar 01248 382689; neu dewch i Neuadd Rathbone. Mae’r holl wasanaethau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Yn ystod eich cyfnod ym Mangor, byddwch chi’n cael cyfle i ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Dystysgrif yn cael ei derbyn gan lawer o gyflogwyr fel prawf o’ch gallu i weithio’n gywir ac effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mewn sesiynau arbennig bydd tiwtoriaid Canolfan Bedwyr yn eich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau iaith cyffredinol a’ch paratoi chi ar gyfer arholiad y Dystysgrif. sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk

Cymorth Cymraeg Edrychwch hefyd ar www.bangor.ac.uk/ cymorthcymraeg sy’n llawn o adnoddau iaith defnyddiol.

Cyswllt: Siân Esmor s.esmor@bangor.ac.uk

Uned Sgiliau Iaith Canolfan Bedwyr Ifan James

@UMCB11

Mae Canolfan Bedwyr yn cynnig darpariaeth i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol. Ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf, mae’r Ganolfan yn cynnig y modiwl Sgiliau Defnyddio’r Gymraeg.

CCB1001 Sgiliau Defnyddio’r Gymraeg

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau yn y Gymraeg, mae Prifysgol Bangor yn awyddus i annog myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg i ymgeisio am waith a / neu gyfleoedd gwirfoddoli yn y Brifysgol. Bydd profiadau o’r fath yn werthfawr ar gyfer eich CV. Rydym yn cadw rhestr o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ac sy’n dymuno gwybod am gyfleoedd gwaith / gwirfoddoli er mwyn gallu cylchredeg enwau i adrannau o fewn y Brifysgol. Os hoffech gael eich cynnwys ar y rhestr hon, cysylltwch â iaithgwaith@bangor.ac.uk. 4

Semester 1 10 credyd

Nod y modiwl hwn yw codi hyder llafar ac ysgrifenedig myfyrwyr yn y Gymraeg. Bydd hyn o gymorth i chi wneud aseiniadau yn y Gymraeg yn eich prif bynciau ac yn eich paratoi at y byd gwaith dwyieithog. Cyswllt: Uned Sgiliau Iaith, Canolfan Bedwyr tiwtoriaid@bangor.ac.uk

Gofalwyr Mae Prifysgol Bangor yn croesawu Gofalwyr ac yn cynnig cefnogaeth arbennig ar eu cyfer. Yn 2016/17, cynigir ysgoloriaeth ar gyfer Gofalwr/wraig sy’n dewis astudio ym Mhrifysgol Bangor. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Delyth Murphy ar delyth.murphy@bangor.ac.uk 5


Dyma’r modiwlau Cymraeg/dwyieithog sydd ar gael i chi yn eich blwyddyn gyntaf yn 2016/17

Y GYMRAEG YM MHRIFYSGOL BANGOR Mae mwy o fyfyrwyr yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor nag yn unrhyw un o’r prifysgolion eraill yng Nghymru. Mae Bangor yn cynnig mwy o gyrsiau a chyfleoedd astudio drwy gyfrwng y Gymraeg nag unrhyw Brifysgol arall yng Nghymru. 6

COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU

Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau UXC1062

Y Ddelwedd Symudol

20 credyd Semester 1

gan ddadansoddi’r cymariaethau rhwng perfformio ar y llwyfan a pherfformio ar y sgrin.

Mae’r modiwl hwn yn fodd o alluogi myfyrwyr i ddysgu hanfodion dadansoddi’r ddelwedd symudol. Bydd myfyrwyr ar y modiwl yn dysgu terminoleg dechnegol a fydd yn eu cynorthwyo i ddadansoddi a dehongli’r modd y mae ffilm yn cyfathrebu ystyr. Bydd darlithoedd unigol yn trafod pynciau megis Mise-en-Scène, Montage, Gwaith Camera, Sain, Goleuo ac Arddull Weledol. Bydd dangosiadau o ffilmiau perthnasol yn cael eu cynnal yn wythnosol, er mwyn cyflwyno enghreifftiau o’r pynciau dan sylw. Bydd y ffilmiau a ddangosir yn cynnwys: A Man Escaped (Bresson, 1956), The Innocents (Clayton, 1961), City of God (Meirelles, 2002), Atonement (Wright, 2007), Bourne Ultimatum (Greengrass, 2007), The Red Shoes (Powell & Pressburger, 1948), a Moulin Rouge! (Luhrman, 2001).

UXC1001

Cyflwyniad i Newyddiaduraeth Ymarferol

20 credyd Semester 2

Perfformio ar y Llwyfan a’r Sgrin

20 credyd, dwyieithog Semester 2

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar rai o’r elfennau a’r technegau allweddol sydd yn rhan o’r broses o hyfforddi actorion. O’r seicolegol i’r corfforol ac i’r lleisiol, bydd y myfyrwyr yn archwilio amryw o ddulliau actio a pherfformio a ddefnyddir gan gyfarwyddwyr cyfredol mewn ystafelloedd ymarfer heddiw,

Cyfathrebu Digidol

20 credyd, dwyieithog Semester 1

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r myfyrwyr i syniadau allweddol ac ysgolheictod cyfredol ynghylch y berthynas rhwng technoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Bydd y myfyrwyr yn ystyried beth ydy gwybodaeth, a sut y mae’n cael ei chreu, ei mesur, ei gwerthfawrogi, ei phrynu, ei gwerthu, ei darparu, rhannu a’i chyfathrebu. Edrychir hefyd ar yr effaith y mae’r cyd-destun digidol yn ei gael ar wybodaeth. Bydd y modiwl yn paratoi myfyrwyr ar gyfer astudiaeth bellach ym mlynyddoedd 2 a 3 yn y cyfryngau newydd, dylunio rhyngweithiol a chyfathrebu ac astudiaethau gemau.

Dyma fodiwl sy’n cyflwyno’r myfyrwyr i fyd newyddiaduraeth. Byddant yn dysgu’r gwahaniaeth rhwng ysgrifennu creadigol a ffeithiol, y sgiliau gwahanol sydd angen arnynt a sut i gynllunio straeon ffeithiol. Caiff y myfyrwyr eu dysgu sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau, sut i gynhyrchu straeon eu hunain a sut i olygu eu gwaith yn ogystal. Elfen bwysig o hyn fydd dysgu sut i ymchwilio straeon. Bydd nifer o dasgau ganddynt i’w cwblhau a fydd yn eu hannog i fynd allan i gyfweld pobl ‘go iawn’ a sut i ddewis a dethol y dyfyniadau gorau. Erbyn diwedd y modiwl byddant hefyd wedi cysylltu gyda golygyddion amrywiol gyhoeddiadau i geisio cyhoeddi eu gwaith.

UXB1043

UXB1055

UXC1038

Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau

20 credyd Semester 2

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno’r myfyrwyr i’r sgiliau a’r technegau sylfaenol fydd yn eu galluogi i archwilio egwyddorion cynhyrchu’r cyfryngau trwy waith creadigol ym maes ffilm a radio. Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau i gynhyrchu dau destun cyfryngau byr, gan ddefnyddio offer darlledu safonol. Bydd y myfyrwyr yn dadansoddi eu gwaith eu hunain yng nghyd-destun theori, gan greu cysylltiad rhwng theori ac ymarfer cynhyrchu’r cyfryngau.

7

UXB1043

Diwylliant y Cyfryngau

20 credyd, dwyieithog, Semester 2

Mae’r modiwl yn gyflwyniad i astudio ffurfiau, testunau a systemau’r cyfryngau, ynghyd â’u cyfraniad at fywyd cymdeithasol. Mae’n dechrau archwilio ehangder astudiaethau’r cyfryngau trwy ganolbwyntio ar y ffyrdd y mae’r cyfryngau’n bwysig. Ym mha ffyrdd y mae’r cyfryngau’n cyfrannu at ffurfio hunaniaeth unigol ac at arferion pob dydd, a pha mor arwyddocaol ydynt o ran hynny? Yn y byd cyhoeddus, i ba raddau y mae’r cyfryngau’n allweddol i ddarparu gwybodaeth a galluogi’r drafodaeth sy’n angenrheidiol i gynnal democratiaeth? Mae’r modiwl hwn


COLEG ADDYSG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU COLEG A DYSGU GYDOL OES

Ysgol Athroniaeth a Chrefydd

yn eich galluogi i feithrin eich profiadau eich hunain o’r cyfryngau fel cwsmeriaid a defnyddwyr.

UXB1120

Dyfeisio Theatr

20 credyd, dwyieithog, Semester 1

Mae’r modiwlau canlynol ar gael yn rhannol neu’n gyfan gwbl drwy’r Gymraeg:

Yn y modiwl hwn, bydd y myfyrwyr yn canolbwyntio ar rai o’r elfennau a’r safbwyntiau gwahanol sydd yn cyfrannu tuag at y broses o greu a gwylio perfformiad. Gan ddadansoddi amrywiaeth o enghreifftiau, bydd modd ystyried heriau a photensial perfformio cyfres o ddarnau unigol. Gan ddibynnu ar y deunydd o dan sylw, gallai hyn olygu gwaith darllen cyd-destunol hanesyddol chofiannol, yn ogystal ag o fewn meysydd eraill perthnasol. Cyswllt : Geraint Ellis g.w.ellis@bangor.ac.uk

VPC1105 Moeseg: Agweddau Crefyddol

20 credyd Semester 2

Bydd y modiwl yn dechrau gyda thrafodaeth ar darddiad moeseg a bydd yn edrych ar beth o’r deunyddiau perthnasol i’r pwnc sydd wedi goroesi o ddiwylliannau mawr Mesopotamia a’r Aifft. Byddwn wedyn yn archwilio gwerthoedd moesegol y grefydd Iddewig, fel yr adlewyrchir hwynt yn yr Hen Destament, a gwerthoedd moesegol y traddodiad Cristnogol, fel yr adlewyrchir hwynt yn y Testament Newydd. Yna, ceir golwg gyffredinol ar faterion moesegol sy’n gysylltiedig â’r traddodiad Bwdistaidd. Daw’r modiwl i’w derfyn drwy edrych ar ddamcaniaeth foesegol ‘gorchymyn dwyfol’, a bydd yn ystyried i ba raddau y dylid uniaethu daioni moesol ag ewyllys Duw neu orchymyn Duw.

VPC1108

Athroniaeth a/mewn Llên

20 credyd Semester 2

Ysgol Cerddoriaeth

Mae’r modiwl yn cyflwyno syniadau allweddol megis: llafaredd a llythrennedd; genre a mimesis; gwirionedd llenyddol; yr awdur a bwriadoledd; gwleidyddiaeth a chyfrynged; cenedlaetholdeb; ffeministiaeth; iaith lenyddol a throsiadol. Edrychwn ar destunau gan feddylwyr megis Platon, Aristoteles, Hegel, Coleridge, Nietzsche, Heidegger, Benjamin, de Man, Derrida, yn ogystal â gweithiau sydd yn ‘llenyddol’ mewn ffordd fwy amlwg. Darllenwn weithiau yn Gymraeg lle byddant ar gael.

Astudiaeth o Gerddoriaeth y Gorllewin

(anrhydedd sengl) 40 credyd Semester 1 a 2

Trafod prif genres cerddoriaeth gelfyddydol y Gorllewin yn y cyfnodau Baróc, Clasurol a Rhamantaidd: o darddiad yr opera tua 1600 i’r genhedlaeth o gyfansoddwyr ar ôl Wagner.

VPC1111 Athroniaeth Foesol/ Gwleidyddol

WXC1001

20 credyd Semester 2

WXC1002

Astudiaeth o Gerddoriaeth y Gorllewin ca. 1600-ca.1900 (cydanrhydedd)

20 credyd Semester 1 a 2

Trafod prif genres cerddoriaeth gelfyddydol y gorllewin yng nghyfnod y baróc, clasurol hyd at yr oes ramantaidd: o darddiad yr opera tua 1600 hyd at gyfnod Wagner.

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno i fyfyrwyr rai o’r cwestiynau allweddol ym maes athroniaeth foesol a gwleidyddol. Bydd yn ymchwilio i nifer o themâu gwahanol, o’r natur ddynol, cyfiawnder, a natur moesoldeb i faterion mwy diweddar megis gender a thlodi byd-eang. Cyflwynir y pynciau hyn gan fwyaf trwy waith rhai o’r athronwyr pwysicaf yn y canon, o Blaton a Hobbes i Marx a Rawls, gan roi ymdeimlad i’r myfyrwyr o hanes athroniaeth y gorllewin. I’r diben hwn, yn ogystal â mynd i’r afael â chwestiynau athronyddol penodol, bydd y modiwl yn ceisio amlygu parhad a thoriad yn hanes syniadaeth y gorllewin, a natur oesol rhai cwestiynau am fodolaeth y ddynolryw. Cyswllt: Yr Athro Eryl Wynn Davies e.w.davies@bangor.ac.uk

WXC1004

Harmoni a Gwrthbwynt

20 credyd Semester 1 a 2

Astudiaeth o gerddoriaeth y Gorllewin rhwng 1700 a 1830, gan ganolbwyntio ar gyfnod y Baróc a’r Clasurol. Ceir cyfle i astudio sgorau ac ymarferion cysylltiedig mewn dirnad clywedol er mwyn arsylwi a barnu cerddoriaeth donyddol yn finiocach.

WXC1006 Diwylliannau Cerdd Byd-eang

20 credyd Semester 1 a 2

Golwg ar draddodiadau cerddorol amrywiol (rhai gwerinol, ‘clasurol’ a phoblogaidd) sy’n gysylltiedig ag ardaloedd penodol o’r byd, yn ogystal â’r astudiaeth o offerynnau cerdd. Nid oes angen profiad blaenorol o’r maes, dim ond y gallu i werthfawrogi cerddoriaeth o ddiwylliannau gwahanol.

WXC1011

Cyfansoddi

20 credyd Semester 1 a 2

Cyflwyniad i dechnegau cyfansoddi a ddefnyddiwyd yn yr 20fed ganrif, gan ddangos sut mae harmoni, rhythm, adeiledd, offeryniaeth a thraw wedi datblygu. Rhoddir y cyfryngau sylfaenol i’r myfyrwyr ar gyfer cyfansoddi. 8

9


COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU WXC1012

Technoleg Cerdd Ymarferol

10 credyd Semester 1

Ysgol Dysgu Gydol Oes

Gan ddechrau gyda’r dybiaeth nad oes gan yr unigolyn unrhyw brofiad blaenorol mewn technoleg cerddoriaeth, nod y modiwl hwn fydd rhoi i’r myfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i raddedigion yn yr oes dechnolegol sydd ohoni.

WXC1014

Creu Cerddoriaeth

20 credyd Semester 1 a 2

Perfformio Unawdol

20 credyd Semester 1 a 2

Deall Cymuned

20 credyd Semester 1

Bydd y modiwl yn arwain y dysgwr at well dealltwriaeth o natur y gymuned. Mae’n edrych ar y berthynas rhwng ffactorau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sy’n effeithio ar gymunedau ac yn eu llywio. Bydd y dysgwr yn gallu cynnal dadansoddiad integredig sylfaenol o gymunedau, a defnyddio damcaniaethau yn ei ddealltwriaeth o gymunedau.

Mae’r modiwl hwn yn ymgais i ddatblygu medrau cerddorion ensemble trwy ymarferion wythnosol ar gyfer Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol, Corws y Brifysgol neu Gôr Siambr y Brifysgol, gan arwain at ddau neu dri pherfformiad cyhoeddus mewn cyngherddau. Cyfarwyddir ymarferion gan arweinydd o blith y staff proffesiynol, a chaiff myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl hwn fudd o chwarae neu ganu ochr yn ochr â cherddorion mwy profiadol, yn cynnwys myfyrwyr mewn blynyddoedd eraill, staff y Brifysgol a cherddorion o’r tu allan i’r Brifysgol.

WXC1016

YSE1500

YCE1107

Cynefin a Chymuned

30 credyd Semester 1

Edrychir yn amlddisgyblaethol ar gynefin a chymuned gan bwysleisio’r berthynas rhwng elfennau daearegol, daearyddol, hanesyddol, economaidd, cymdeithasegol a diwylliannol. Hynny yw, persbectif integredig, crwn ar y byd o’n cwmpas gyda phwyslais ar agweddau cysyniadol a haniaethol yn ogystal â’r disgrifiadol. Bydd yn tanio diddordeb mewn dysgu’n barhaol, yn cynnwys datblygiad personol a grŵp, datblygu sgiliau cyfathrebu a chyflwyno a’r gallu i ymgysylltu eraill yn y broses dysgu. Ar gael fel Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac ar ffurf heb ei achredu. Cyswllt : Shân Ashton s.ashton@bangor.ac.uk

Hyfforddiant unigol ar gyfer llais neu offeryn. Cytunir ar raglen arfaethedig o astudiaethau technegol, repertoire a deongliadol gyda’r tiwtor ar y cychwyn. Cynhelir gwrandawiad ar ddechrau’r semester. Cyswllt : Dr Owain Llwyd o.llwyd@bangor.ac.uk

Ysgol y Gymraeg CXC1016

Llenyddiaeth Gyfoes

10 credyd Semester 1

Defnyddio’r Gymraeg

20 credyd Semester 1 a 2

Gweithdy Creadigol

20 credyd Semester 2

10 credyd Semester 2

Ceir yn y modiwl hwn gyflwyniad i gyffro llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern cynnar - cyfnod a nodweddid gan drawsnewidiadau gwleidyddol, technolegol a chrefyddol. Ystyrir y modd yr aeth beirdd ac awduron Cymraeg ati i wynebu her yr oes. Yn ogystal â thrafod nifer o ‘drobwyntiau’ llenyddol sy’n enghreifftio newydd-deb y cyfnod, ceir cyfle i ystyried parhad gwahanol agweddau traddodiadol. Bydd y cyfan yn fodd i asesu gwerth ac ystyr cysyniadau megis ‘trobwynt’, ‘gwrthbwynt’, ‘traddodiad’ a ‘gwreiddioldeb’.

10 credyd Semester 2

Mae pwyslais y modiwl hwn ar ddatblygu sgiliau beirniadol myfyrwyr. Ceir cyflwyniad i ddetholiad o ddamcaniaethau beirniadol ac i egwyddorion beirniadaeth lenyddol. Bydd y prif bwyslais ar agweddau ymarferol beirniadaeth lenyddol a chanolbwyntir ar gyfres o astudiaethau manwl o gerddi a darnau rhyddiaith unigol.

CXC1019 Rhyddiaith yr Oesoedd Canol 10 credyd Semester 2

Cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol, gan ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur.

10

CXC1018

CXC1002 Llên y Cyfnod Modern Cynnar

CXC1001 Beirniadaeth Lenyddol Ymarferol

20 credyd Semester 1

Un o fodiwlau craidd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw hwn, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhai sy’n dilyn y cynllun gradd hwnnw. Yn wir, nid oes raid wrth brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol er mwyn dilyn y modiwl, ond yn hytrach ddiddordeb gwirioneddol yn y maes a pharodrwydd i roi cynnig ar wahanol fathau o ysgrifennu creadigol. Fe’i hasesir drwy gyfres o ymarferion a phortffolio unigol.

Modiwl ymarferol ei bwyslais sy’n anelu at godi hyder myfyrwyr wrth arfer y Gymraeg yn ysgrifenedig. Mewn cyfres o ddosbarthiadau eglurhaol, trafodir y modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Dysgir drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau.

Sgriptio Teledu

Yn y modiwl hwn, dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript ar gyfer y teledu. Bydd pum cam i’r gweithgaredd hwn (i) trafod gofynion teledu fel cyfrwng dramatig; (ii) cyflwyno braslun ysgrifenedig o thema’r ddrama; (iii) llunio braslun o blot y ddrama ynghyd â dadansoddiad manwl o natur y cymeriadau sydd ynddi; (iv) rhannu’r plot yn olygfeydd; (v) llunio’r ddeialog a chael cyfarwyddyd manwl ar sut i wneud hynny.

Mae pwyslais y modiwl hwn ar ddatblygu sgiliau ysgrifennu traethodau a thrafod ar lafar drwy ganolbwyntio ar ddetholiad o weithiau gan awduron diweddar a berthyn i’r unfed ganrif ar hugain. Rhoddir sylw i faterion pwysig fel llên-ladrad yn ogystal ag agweddau technegol, e.e. trefnu troednodiadau a dulliau cyfeirio safonol. Fe’i dysgir drwy gyfuniad o sesiynau hyfforddi, darlithoedd cyflwyniadol a seminarau.

CXC1004

CXD1016

CXD1013

Theatr Fodern Ewrop

20 credyd Semester 2

Yn y modiwl hwn, astudir datblygiad y ddrama fodern yn Ewrop yn y 19eg a’r 20fed ganrif. Bydd rhan gyntaf y modiwl yn trafod y ddrama naturiolaidd a’r ail ran yn trafod yr adwaith i ddatblygiad y ddrama fodernaidd. Astudir detholiad o destunau sy’n cynrychioli’r gwahanol ddramodwyr a mudiadau. 11


COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU CXC1032

Gwyddeleg Modern C

20 credyd Semester 1 a 2

genre drwy gyfrwng enghreifftiau diweddar, e.e. casgliad o gerddi, nofel a drama deledu. Dysgir drwy gyfres o seminarau.

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r iaith Wyddeleg modern, fel y’i siaredir a’i hysgrifennir heddiw, i rai heb wybodaeth flaenorol o’r iaith honno. Dros ddau semester, symudir o’r sylfaenol i’r canolradd. Ar sgiliau ymarferol (medru siarad, ysgrifennu a deall yr iaith) y mae’r ffocws pennaf, ond bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu ychydig am berthynas y Wyddeleg â’r ieithoedd Celtaidd eraill (y Gymraeg yn bennaf), a hefyd am hanes a diwylliant Iwerddon, gan gynnwys rhai o weithiau llenyddol ac awduron pwysicaf yr ugeinfed ganrif.

Cymraeg Llafar

20 credyd Semester 1 a 2

Ysgrifennu Cymraeg

20 credyd Semester 1 a 2

Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Ail Iaith. Gofynnir i fyfyrwyr ysgrifennu darn byr o Gymraeg yn rheolaidd. Gosodir tasgau o natur ffeithiol (e.e. crynodeb neu fwletin newyddion) a hefyd greadigol (e.e. stori fer neu bortread). Dysgir drwy gyfres o seminarau a bydd pwyslais y modiwl ar ymarfer ysgrifennu’n raenus ac yn gywir.

CXC1008

Llên a Llun

10 credyd Semester 1

10 credyd Semester 1

CXC1026

Golwg ar Lenyddiaeth 2

10 credyd Semester 2

Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Ail Iaith. Mae’r modiwl hwn cwblhau’r gorolwg o brif gyfnodau llenyddiaeth y Gymraeg a ddechreuwyd yn Golwg ar Lenyddiaeth 1. Cawn gyfle i astudio enghreifftiau o destunau o ddiwedd yr Oesau Canol hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif, gan ystyried eu cyd-destunau hanesyddol a syniadaethol. Am fod hwn yn fodiwl i fyfyrwyr ail iaith yn benodol, bydd sylw arbennig yn cael ei roi i agweddau o’r iaith lenyddol ac i eirfa berthnasol. Cyswllt : Yr Athro Gerwyn Wiliams g.wiliams@bangor.ac.uk

Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Ail Iaith. Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu llafar. Rhoddir sylw i wahanol gyweiriau’r iaith, o’r tafodieithol i’r ffurfiol. Bydd hyfedredd yn cael ei feithrin drwy drafod materion cyfoes, gyda chyflwyniadau gan y myfyrwyr ar amrywiol bynciau. Defnyddir deunydd cyfredol o’r teledu, radio a byd ffilm i gyflwyno pynciau a sbarduno trafodaeth. Trafodir hefyd weithiau ysgrifenedig mewn amryw ffurfiau, e.e. papurau newydd, cylchgronau a blogiau.

CXC1005

Golwg ar Lenyddiaeth 1

Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Ail Iaith. Yn ystod y modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn bwrw golwg ar rai o uchafbwyntiau llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, e.e. barddoniaeth Taliesin, Aneirin a Dafydd ap Gwilym a rhyddiaith Pedair Cainc y Mabinogi. Dysgir drwy gyfres o seminarau.

Modiwlau Cymraeg – Ail Iaith CXC1007

CXC1006

Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg

Iwgoslafia a 9/11. Fodd bynnag, nid golwg ryfel-wrth-ryfel o reidrwydd a ddarperir ar y modiwl, ond yn hytrach un thematig, a rhai o’r testunau a archwilir fydd y ffrynt cartref, propaganda, hil-laddiad, rhywedd, dioddefwyr, terfysgaeth, heddychiaeth, rhyfel a’r meddwl a threftadaeth rhyfel. Gwneir defnydd nodedig o ffilm, clipiau sain, hanes llafar a blogiau. Cynhelir darlithoedd y modiwl yn Saesneg, ond darperir terminoleg Gymraeg, a bydd gweithdai a seminarau cyfrwng Cymraeg ar gael yn wythnosol. Gellir cyflwyno gwaith ar y modiwl trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

HXC1007 Cymru: Tywysogion i Duduriaid

20 credyd Semester 1

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno i fyfyrwyr rai o’r datblygiadau pwysicaf yn hanes Cymru o ‘Oes y Tywysogion’ i’r cyfnod modern cynnar. Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar ymdrech wleidyddol a chyflawniadau’r teuluoedd brenhinol brodorol, yn cynnwys ymdrechion i sefydlu tywysogaeth Cymru, cyn mynd ymlaen i edrych ar fudiad Owain Glyndŵr ac, yna, ar y newidiadau gwleidyddol, diwylliannol a chrefyddol a welwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae’r modiwl felly’n arweiniad i gyfnod allweddol yn hanes y Gymru gyn- ddiwydiannol, gan roi sylw’r un pryd i faterion canolog sy’n ymwneud ag astudio cymdeithasau canol oesol a modern cynnar yn gyffredinol.

HXC1006

Cymru yn y Byd Modern

20 credyd Semester 2

20 credyd Semester 2

Bydd darlithoedd y modiwlau hyn yn Saesneg, gyda’r opsiwn i ymuno â grŵp seminar Cymraeg. Fel ar ein holl fodiwlau, cewch gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg neu Saesneg yn ôl eich dewis.

Bwriad y modiwl hwn yw archwilio’r gwahanol ffyrdd y siapwyd cymdeithasau ar draws Ewrop, America ac Asia gan ryfeloedd yr ugeinfed ganrif. Bydd prif ffocws y modiwl ar impact rhyfel ar gymdeithas a diwylliant, gyda golwg benodol ar rôl technoleg a’r modd y portreadir rhyfel ar y cyfryngau. Ymhlith eraill, bydd trafodaeth ar y Rhyfel Byd Cyntaf, Rhyfel Cartref Sbaen, yr Ail Ryfel Byd, y Rhyfel Oer, Rhyfel Vietnam, Rhyfel y Gwlff, chwalfa 12

20 credyd S emester 1

Modiwlau gyda grwpiau seminar Cymraeg

HXC1009 Rhyfel, Cymdeithas a’r Cyfryngau

Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr Cymraeg Ail Iaith. Bydd cyfle i astudio pedwar gwahanol

Datguddio’r Gorffennol

Pwrpas y modiwl yw eich helpu i ddechrau astudio Hanes yn y brifysgol, a’ch helpu i wneud rhan o’ch astudiaethau trwy’r Gymraeg. Bydd yn eich cyflwyno i sylfeini pwysicaf gwaith academaidd ac yn eich dysgu chi sut i astudio, cyflwyno ac ysgrifennu am y gorffennol ar lefel gradd. Yn gyntaf, bydd yn eich cyfarwyddo i ddeall y dulliau gwahanol o ddysgu sy’n hanfodol ar gyfer astudio Hanes yn y brifysgol, ac yn rhoi cymorth i chi ddeall beth yw seminarau a beth sy’n cyfiawnhau marciau traethawd. Yn ail, bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod eang o sgiliau astudio craidd, megis defnyddio erthyglau cyfnodolion, deall llyfrgell y brifysgol a pharatoi ar gyfer traethodau a chyflwyniadau. Yn drydydd, bydd yn esbonio sut mae haneswyr yn archwilio’r gorffennol trwy ffocysu ar eu dadleuon a’u hanghytundebau, ac yn archwilio i fathau gwahanol o ffynonellau cynradd a’u defnydd gan ysgolheigion. Byddwch yn gweithio gyda’ch gilydd mewn grwpiau bach i greu portffolio sgiliau a fydd yn cael ei ehangu o wythnos i wythnos a bydd yn sylfaen i’ch marc.

Amcan y modiwl hwn yw cynnig arolwg cynhwysfawr o hanes Cymru yn y cyfnod modern, gan ddangos sut y bu i Gymru adlewyrchu’r cyfnewidiadau enfawr a gafwyd yng ngwareiddiad gwledydd y gorllewin. Trafodir effeithiau diwydiannu a threfoli, argyfyngau rhyfel, apêl syniadau gwleidyddol amrywiol, newidiadau diwylliannol ac arwyddocâd cydberthynas ryngwladol. Mae’r modiwl felly yn olrhain trawsnewidiad Cymru o gyfnod y chwyldro diwydiannol ymlaen i ddyfodiad datganoli ddiwedd yr ugeinfed ganrif, a thu hwnt i hynny.

HCC1050

HXC1001 Apocalypse Then HXC1003 Birth of Modern Europe Cyswllt: Dr Euryn Rhys Roberts e.r.roberts@bangor.ac.uk 13


COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU

Ysgol Ieithoedd a £ Diwylliannau Modern LCF1001

Sgiliau Iaith Ffrangeg

20 credyd Semester 1 a 2

siarad Ffrangeg mewn dosbarthiadau sgwrsio gyda siaradwr brodorol. Datblygir y gallu i ddeall Ffrangeg llafar drwy wneud tasgau gwrando sy’n seiliedig ar glipiau sain a fideo.

Bwriad y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr sydd wedi cwblhau lefel A (neu gymhwyster cyfwerth) mewn Ffrangeg i adeiladu ar eu sgiliau ysgrifennu a’u datblygu ymhellach. Bydd dosbarthiadau’n cael eu rhannu rhwng cyflwyno ac ymarfer elfennau gramadegol a thrin a thrafod testunau sy’n amrywio o ran arddull a chywair. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o strwythurau gramadegol allweddol a’u gallu i’w defnyddio mewn ymarferion gramadeg, cyfieithiadau a thraethodau. Byddant hefyd yn datblygu ac ehangu eu geirfa a’u gallu i ddeall testunau mewn Ffrangeg safonol. Y gwerslyfr a ddefnyddir yw En Bonne Forme.

Mae’r modiwl hwn yn mynd law yn llaw â’r modiwl LCF-1001, ac mae’n canolbwyntio ar sgiliau llafar a gwrando. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau llafar a’u hyder i siarad Ffrangeg mewn grwpiau bychain mewn dosbarthiadau sgwrsio gyda siaradwr brodorol. Mewn dosbarthiadau gwrando byddant yn gwneud tasgau sy’n seiliedig ar glipiau fideo sy’n ymwneud â materion cyfoes yn Ffrainc a gwledydd Ffrangeg eu hiaith. Bydd yr ymarferion hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ehangu eu geirfa a’u dealltwriaeth a’u defnydd o ymadroddion cymhleth wrth drin a thrafod amrywiaeth o bynciau.

Ffrangeg i Ddechreuwyr 1

20 credyd Semester 1

20 credyd Semester 2

LCG1001

Sgiliau Iaith Almaeneg

20 credyd Semester 1 a 2

Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau darllen a deall y myfyrwyr drwy astudio testunau mewn amrywiol ddulliau a chyweiriau ac yn galluogi myfyrwyr i aralleirio testunau yn yr Almaeneg. Bydd yn galluogi myfyrwyr i gyfieithu testunau o’r Almaeneg ac i’r Almaeneg, ac i ysgrifennu darnau ar lefel gymharol uchel, e.e. traethodau byr. Bydd yn ehangu geirfa Almaeneg, ac yn datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr o’r prif elfennau gramadegol yn yr Almaeneg gyfoes, a’r gallu i’w defnyddio mewn ymarferion gramadeg a thraethodau. Bydd y modiwl yn seiliedig ar wahanol bynciau, a atgyfnerthir trwy ymarfer prif elfennau gramadegol yr Almaeneg.

20 credyd Semester 1 a 2

LCF1003

Ffrangeg i Ddechreuwyr 2

Mae’r modiwl hwn wedi ei anelu at fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf sydd wedi cwblhau modiwl LCF-1003 yn llwyddiannus. Nod y modiwl yw adeiladu ar y sgiliau sylfaenol a ddysgwyd yn semester 1 er mwyn cyrraedd safon sy’n cyfateb i Lefel A. Bydd myfyrwyr yn defnyddio a datblygu’r eirfa a’r ramadeg a ddysgwyd yn semester 1 wrth ysgrifennu darnau mwy estynedig a thrwy gyfieithu darnau byrion. Defnyddir clipiau sain a fideo i wella sgiliau gwrando a deall, a bydd sgiliau llafar a’r hyder i siarad Ffrangeg yn cael eu datblygu ymhellach mewn dosbarthiadau sgwrsio gyda siaradwr brodorol.

LCF1002 Sgiliau Cyfathrebu Ffrangeg

LCF1004

LCG1003

Almaeneg i Ddechreuwyr 1

20 credyd Semester 1

Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i gystrawennau sylfaenol yr Almaeneg, gan eu cyfarwyddo’n arbennig â rôl agweddau gramadegol yn yr Almaeneg megis cenedl, ffurfdro a threfn geiriau. Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i greu a thrin brawddegau sylfaenol ac i ddarllen a deall testunau syml yn yr Almaeneg a datblygu geirfa sylfaenol. O ran sgiliau llafar, bydd y myfyrwyr yn ymarfer seinyddiaeth yr Almaeneg a chyflwyno pynciau syml yn yr Almaeneg. Y gwerslyfr a ddefnyddir yw Delfin.

LCG1004

Almaeneg i Ddechreuwyr 2

20 credyd Semester 2

Amcan canolog y modiwl yw datblygu dealltwriaeth sylfaenol y myfyrwyr o’r iaith Almaeneg ac o strwythurau gramadegol mwy cymhleth. Mae sgiliau ysgrifenedig y myfyrwyr yn cael eu datblygu drwy gyfieithu testunau byr i’r Gymraeg neu’r Saesneg, a drwy ysgrifennu darnau mwy datblygedig yn Almaeneg megis traethodau byr a llythyrau. Hefyd, gall myfyrwyr ddarllen a deall testunau canolradd yn Almaeneg ac ehangu eu geirfa. O ran sgiliau llafar, bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau clywedol canolradd a magu hyder

mewn seinyddiaeth Almaeneg yn ogystal â deall ac ymateb i faterion mwy cymhleth ar lafar yn Almaeneg. Y gwerslyfr a ddefnyddir yw Delfin.

20 credyd Semester 1 a 2

Drwy gyfuno ymarferion monolog a deialog, gwrando a thrafodaethau, bydd y modiwl yn anelu at wella dealltwriaeth a medrusrwydd ar lafar y myfyrwyr ac at gynyddu hyder wrth siarad Almaeneg. Bydd siaradwyr Almaeneg mamiaith yn dysgu’r modiwl mewn grwpiau bach. Byddant yn defnyddio recordiau clywedol a fideo o raglenni Almaeneg er mwyn cyflwyno pynciau newydd ac amryw acennau Almaeneg i’r myfyrwyr. 14

Hanes a Diwylliant Ewrop

20 credyd Semester 2

Mae’r modiwl hwn yn archwilio newidiadau allweddol yn hanes, syniadaeth a diwylliant Ewrop o 1789 i’r cyfnod modern. Ceir amlinelliad o hanes a datblygiad Ewrop a bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ddadansoddi diwylliant Ewrop a pherthnasedd cyfnodau hanesyddol pwysig yn ei datblygiad. Byddwn yn cyfeirio at ystod o ffurfiau diwylliannol, megis llenyddiaeth, celf, delweddau a ffilm. Mae’r modiwl yn cynnig arolwg o fudiadau allweddol yn syniadaeth a diwylliant Ewrop, yn ogystal â digwyddiadau hollbwysig yn Ewrop sydd yn cyfrannu’n sylweddol at hanes y byd. Mae’r modiwl yn darparu sail hanfodol ar gyfer astudio diwylliant a hanes gwledydd Ewrop mewn dyfnder a manylder. Mae hwn yn fodiwl cydweithredol sy’n cael ei ddysgu yn rhannol drwy fideo-gynadledda. Cyswllt: Dr Edith Gruber e.gruber@bangor.ac.uk Sian Beidas s.beidas@bangor.ac.uk

LCG1002 Sgiliau Cyfathrebu Almaeneg

Mae’r modiwl hwn yn addas i ddechreuwyr ynghyd â myfyrwyr sydd wedi astudio Ffrangeg hyd at TGAU. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llafar, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Bydd myfyrwyr yn dysgu ac ehangu geirfa ac yn dod i ddeall a medru defnyddio gramadeg Ffrangeg. Bydd hyn yn caniatáu iddynt fedru darllen, deall a chreu testunau mewn Ffrangeg sylfaenol. Byddant hefyd yn datblygu eu sgiliau llafar a’u hyder i

LCE1600

15


COLEG Y CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU

Ysgol Ieithyddiaeth ac £ Iaith Saesneg QCL1017

Y Gymraeg a Chymdeithas

20 credyd Semester 1

COLEG BUSNES, Y GYFRAITH, ADDYSG a GWYDDORAU CYMDEITHAS

QCL1145

Disgrifio’r Gymraeg

20 credyd Semester 2

Modiwl sylfaenol yw hwn sydd yn cyflwyno nifer o gysyniadau creiddiol astudio strwythur ieithyddol Cymraeg cyfoes. Erbyn diwedd y modiwl bydd myfyrwyr yn gallu trafod a dadansoddi’r iaith Gymraeg o sawl safbwynt gramadegol mewn modd ieithyddol ac ysgolheigaidd. Canolbwyntir ar agweddau mwyaf nodweddiadol yr iaith lafar anffurfiol, a bydd myfyrwyr yn edrych ar agweddau o’r Gymraeg megis y system sain (ffonoleg a seineg), y gystrawen (trefn y geiriau), y dull y mae geiriau’n cael eu categoreiddio (rhannau ymadrodd), strwythur fewnol geiriau (morffoleg) a’r geiriau eu hunain (yr eirfa). Bydd myfyrwyr yn ystyried effaith dwyieithrwydd ar y Gymraeg, ac yn edrych ar y cysyniad o newid iaith yn y Gymraeg gyfoes, gan ofyn a yw’r Gymraeg yn colli rhai o’i nodweddion ieithyddol unigryw drwy ddylanwad y Saesneg, ac ystyried sut (neu os) bydd y Gymraeg yn newid yn y dyfodol o ran ei gramadeg. Cyswllt : Dr Peredur Webb-Davies p.davies@bangor.ac.uk

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i agweddau cymdeithasol a sosioieithyddol o’r iaith Gymraeg a’r sefyllfa ieithyddol yng Nghymru. Gan mai amrywiaeth iaith fydd y prif ffocws, bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae’r Gymraeg yn amrywio yn dibynnu ar bethau fel arddull, ardal ddaearyddol, gwahanol grwpiau cymdeithasol ayyb. Ceir ffocws arbennig ar astudio tafodieithoedd y Gymraeg. Bydd myfyrwyr yn darganfod sut mae sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru yn cymharu â sefyllfaoedd ieithoedd eraill ledled y byd, a thrafodir hanes y Gymraeg a’i pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd eraill. Bydd cyfle hefyd i edrych ar ddwyieithrwydd yn y cyd-destun Cymraeg, a sut mae Cymru’n wahanol neu debyg i wledydd dwyieithog eraill y byd. Ceir hefyd ddarlithoedd am y diaspora Cymreig ym Mhatagonia ac am addysg Gymraeg ddoe a heddiw.

Ysgol Addysg XAC1026

Sgiliau ar gyfer Dysgu

20 credyd Semester 1 a 2

XAC1036 Cyflwyno Ymchwil Plentyndod

Mae’r modiwl yn cynorthwyo myfyrwyr i ddysgu’n effeithiol ac i ddatblygu ystod o sgiliau allweddol a sgiliau trosglwyddadwy yng nghyd-destun eu harddulliau a’u dulliau personol. Mae’n galluogi myfyrwyr i ganfod eu cryfderau a’u gwendidau presennol wrth osod targedau personol fel rhan o’r broses o ddod yn ddysgwr annibynnol. Bydd yn canolbwyntio ar y sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig sydd eu hangen i wneud rhaglen radd, ac ar helpu myfyrwyr i ddeall eu hymddygiad dysgu ac ymddygiad dysgu pobl eraill er mwyn ennill cymhelliant a hyder.

XAC1027

Plant, Diwylliant a Moeseg

20 credyd Semester 1 a 2

Cyswllt: Dr Nia Young nia.young@bangor.ac.uk Mae modd astudio cyrsiau sy’n arwain at statws athro cymwysiedig (SAC) a’r cwrs Dylunio Cynnyrch yn Gymraeg hefyd

Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar arwyddocâd amrywiaeth diwylliannol, gwerthoedd, moesau a chredoau a’u pwysigrwydd wrth ddatblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol a moesol plant. Mae’n ymchwilio i’r credoau a’r arweiniad moesegol penodol a gynigir gan rai crefyddau yn y byd a hefyd yr arweiniad moesegol a gynigir gan rai diwylliannau. Mae’r modiwl yn ystyried strategaethau sy’n meithrin ymwybyddiaeth ddiwylliannol a moesol plentyn, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddefnyddio llenyddiaeth plant berthnasol i hyrwyddo’r ymwybyddiaeth hon.

XAC1035

Plant a Chymdeithas

20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i astudiaeth gymdeithasegol plentyndod, ac yn trafod sut y mae cysyniadau a dealltwriaethau plentyndod yn cael eu pennu’n gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol. Archwilir y syniadau hyn gan drafod agenda hawliau plant a’r dadleuon cymdeithasol a chyfreithiol sy’n deillio ohoni. Ystyrir a gwyntyllir y cysyniad bod plentyndod yn y Deyrnas Unedig ‘mewn argyfwng’ trwy drafod ffactorau megis y cyfryngau, addysg, technoleg, rhwydweithio cymdeithasol, teuluoedd a grwpiau cyfoed.

16

20 credyd Semestr 1 a 2

Mae’r modiwl hwn yn trafod Astudiaethau Plentyndod fel maes rhyngwladol o astudiaeth academaidd. Bydd y modiwl yn ystyried hanes Astudiaethau Plentyndod, ei ddatblygiad a’i sefyllfa mewn perthynas â meysydd eraill fel cymdeithaseg, seicoleg, addysg a thu hwnt. Bydd y modiwl hefyd yn nodi pwysigrwydd ymchwil wrth ddatblygu’r maes. Bydd termau a syniadau allweddol o fewn ymchwil yn cael eu trafod, gan gynnwys cyflwyniad i ymchwilio, dylunio methodoleg a chyd-destun.

17


COLEG BUSNES, Y GYFRAITH, ADDYSG a GWYDDORAU CYMDEITHAS

Ysgol Busnes

£

Gellir astudio’r flwyddyn gyntaf yn ei chyfanrwydd naill ai trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

ACB1104

Cyflwyniad i Farchnata

10 credyd Semester 2

Cyflwyniad i Economeg

20 credyd Semester 1 a 2

Sgiliau Astudio Busnes

10 credyd Semester 1

ADB1202

Marchnadoedd a sefydliadau ariannol

10 credyd Semester 2

Rhoi golwg ar natur offerynnau ariannol, marchnadoedd ariannol a chyfryngwyr ariannol, gan ganolbwyntio’n arbennig ar y busnes bancio.

ADB1101

Dulliau Meintiol

20 credyd Semester 1 a 2

Datblygu sgiliau mathemateg hyd at lefel sy’n galluogi defnydd o dechnegau meintiol mewn ystod eang o weithgareddau busnes ac economeg.

ADB1103 Cyflwyniad i Fusnes/ Rheolaeth

Cyflwyno amrywiaeth o sgiliau astudio busnes pwysig a sgiliau Technoleg Gwybodaeth (TG), yn cynnwys ysgrifennu academaidd, cymryd nodiadau, dadansoddi data sylfaenol, cyfathrebu, gwaith grŵp, cyflwyniadau ac ymwybyddiaeth o gyflogadwyedd.

10 credyd Semester 1

Trafodir theorïau rheoli cyfundrefnau, agweddau ar reolaeth adnoddau dynol megis ymddygiad unigolion a grwpiau, strwythur cyfundrefnau, cymhelliant ac arweinyddiaeth. Yn ogystal, rhoddir pwyslais ar adnabod a deall newidiadau yn amgylchedd allanol busnes, a sut mae hyn yn effeithio ar agweddau mewnol. Cyswllt : David James d.james@bangor.ac.uk

ACB1110 Cyfrifeg Rheolaeth/Cyfrifeg Ariannol

10 credyd Semester 1

Ar gyfer y modiwlau isod, bydd y darlithoedd yn Saesneg ond bydd y tiwtorialau yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg:

Cyflwyniad i ddwy brif golofn economeg, sef Meicroeconomeg (elfennau unigol o’r economi: pobl, cwmnïau, a’r rhyngweithio rhyngddynt, ynghyd â gweithrediad y farchnad), a Macroeconomeg (ymddygiad yr economi yn ei chyfanrwydd, gan ganolbwyntio ar elfennau megis diweithdra, chwyddiant, twf economaidd a pholisi cyhoeddus).

ACB1200

Cyfrifeg Rheolaeth

Cyflwyniad i rôl cyfrifeg rheolaeth yn ystod gwaith penderfynu a rheoli tu mewn i sefydliad, gyda’r prif bwyslais ar ddadansoddiad ymylol, costiad llawn, costiad ar sail gweithgareddau, cyllidebu, a chyfrifeg i reoli.

Cyflwyniad i natur marchnata fel swyddogaeth busnes, gyda’r prif bwyslais ar sut i ddiwallu anghenion cwsmeriaid yn broffidiol. Rhannu a thargedu’r farchnad trwy strategaethau effeithiol a phenderfyniadau priodol ynglŷn â chynnyrch, pris, dosbarthu a hyrwyddo.

ACB1112

ACB1106

20 credyd Semester 1 a 2

Cyflwyniad i rôl cyfrifeg wrth wneud penderfyniadau ac wrth reoli o fewn sefydliad. Mae’r prif bwyslais ar ddadansoddi ymylol, costio, cyllidebu, a chyfrifeg rheoli. Yn ogystal, ceir cyflwyniad i sgiliau sylfaenol cyfrifeg, a sut i ddatblygu gwell dealltwriaeth o theori, cysyniadau, a chonfensiynau cyfrifeg. Astudir dulliau mesur, ac adrodd, sefyllfa a pherfformiad ariannol sefydliad, ynghyd â pharatoi cyfrifon cwmni.

18

Ysgol y Gyfraith SCL1115

Y Gyfraith yn Gymraeg

20 credyd Semester 1

£

Amcan y modiwl hwn yw datblygu sgiliau cyfreithiol sylfaenol law yn llaw â meithrin sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg. O ganlyniad, mae’r modiwl yn cynnwys elfen gref o hybu sgiliau ymchwil gyfreithiol, a bydd pwyslais yn cael ei roi ar gywirdeb ieithyddol y tasgau hyn, ac arweiniad yn cael ei ddarparu ar gyfer ysgrifennu Cymraeg cyfreithiol graenus a chywir. Bydd pwyslais hefyd ar drafodaethau llafar cyfreithiol, ac arweiniad yn cael ei ddarparu ar iaith lafar gywir ac addas i’r cywair. Ceir cyfle i ymarfer sgiliau a fydd o ddefnydd i’r myfyrwyr wrth ddilyn eu cwrs gradd yn y Gyfraith (e.e. ysgrifennu nodiadau cydlynol, crynhoi, trawsieithu). Rhan bwysig o’r modiwl fydd paratoi at y cyflwyniad llafar lle ceir cyfle i gyflwyno elfen benodol ar y gyfraith o flaen cynulleidfa o ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr. Bydd y modiwl hefyd yn galluogi’r myfyrwyr i ymarfer a datblygu eu sgiliau ymchwil cyfreithiol a’u sgiliau ieithyddol trwy gyfrwng ymarferion ar Y Porth.

Ar gyfer y modiwlau isod bydd y darlithoedd ffurfiol yn Saesneg ond bydd y tiwtorialau ar gael drwy’r Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl dewis y myfyriwr. Ar gyfer myfyrwyr Ysgol y Gyfraith yn unig mae’r modiwlau isod.

SXL1110

Cyfraith Gyhoeddus

20 credyd Semester 1 a 2

Bydd y modiwl yn rhoi trosolwg cynhwysfawr i’r myfyriwr o nodweddion a rhinweddau’r cyfansoddiad. Bydd cyfraith gyfansoddiadol yn ymdrin â meysydd y prif sefydliadau, deddfau ac arferion yn y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, a bydd yn edrych ar y rheolau, sy’n rheoleiddio prif gyrff llywodraeth a’r berthynas rhwng yr unigolyn a’r wladwriaeth.

SXL1112

Cyfraith Contract

20 credyd Semester 1 a 2

Bydd y modiwl yn rhoi sylfaen i’r myfyriwr sy’n rheoli ffurfio a gorfodi contractau (addewid, derbyn a chytundeb) meysydd gallu, bwriad, cyfreithlondeb a sicrwydd telerau.

SXL1113

Cyflwyniad i’r Gyfraith

20 credyd Semester 1 a 2

Cyflwyniad i System Gyfreithiol Cymru a Lloegr, gan roi fframwaith i astudio ‘Beth yw’r Gyfraith’, sut mae’r system yn gweithredu a’r system mewn cyd-destun cymdeithasol. Mae’r modiwl yn edrych ar fframwaith y llysoedd, sifil a throseddol, y farnwriaeth, cyfreithwyr a rôl ac arwyddocâd cyfranogiad lleygion yn y system (ynadon, rheithgorau ac aelodau tribiwnlysoedd) a datblygu Deddf Hawliau Dynol.

SXL1115

Sgiliau Cyfreithiol

20 credyd Semester 1 a 2

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i sgiliau astudio cyfreithiol ymarferol megis: ysgrifennu nodiadau effeithiol, ysgrifennu traethodau cyfreithiol, datrys problemau cyfreithiol, cyflwyno dadl, achosion llys ffug, gweithio mewn tîm, rheoli amser yn effeithiol, technegau adolygu, etc. Caiff myfyrwyr eu dysgu i ddefnyddio’r sgiliau hyn yn effeithiol i ymchwilio i’r gyfraith, darllen y gyfraith, llunio dadl lafar ac amddiffyn dadl gyfreithiol a dadansoddi a gwerthuso’r gyfraith yn ddwyieithog. Cyswllt: Dr Hayley Roberts hayley.roberts@bangor.ac.uk 19


COLEG BUSNES, Y GYFRAITH, ADDYSG a GWYDDORAU CYMDEITHAS

COLEG GWYDDORAU NATURIOL

Ysgol Gwyddorau Cymdeithas

Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a £ Daearyddiaeth

SCP1006

Materion Iechyd a Lles

20 credyd Semester 1 a 2

gwrthdaro. Edrychir ar waith Emile Durkheim a Karl Marx a’u gwaith arloesol mewn ffurfio theorïau cymdeithasegol cynnar. Yna, edrychir ar sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes, gan gymhwyso’r theorïau a’r persbectifau at ddadansoddi sefydliadau fel y teulu, addysg, gwaith a dosbarth cymdeithasol.

Bydd y modiwl hwn yn edrych ar y modd y darperir gwasanaethau ‘lles’ i gleientiaid. Bydd yn edrych ar agweddau personol, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol mewn gofal iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn ystyried rhai o’r materion moesol ac athronyddol a godir. Mae’r modiwl hefyd yn olrhain datblygiad a defnydd cysyniadau megis angen cymdeithasol, angen o ran gofal iechyd, lles cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, dinasyddiaeth ac eithrio cymdeithasol ymysg eraill o fewn fframwaith proses y polisi.

SCU1001

Sgiliau Ymchwil

20 credyd Semester 1

SCY1004 Cyflwyniad i Drosedd a Chyfiawnder

Mae’r modiwl yn eich cyflwyno at faes trosedd a chyfiawnder troseddol. Trafodir theorïau a themâu allweddol a ddefnyddir i egluro ymddygiad troseddol sy’n cynnwys esboniadau clasurol i’r rhai mwyaf cyfoes; y mesurau a ddatblygwyd i atal trosedd, ynghyd â gorolwg o’r system gyfiawnder troseddol sy’n cynnwys prif asiantaethau cyfiawnder troseddol, datblygiad hanesyddol, strwythur ac atebolrwydd y system.

Mae Sgiliau Ymchwil yn fodiwl rhagarweiniol sydd yn disgrifio natur ymchwil empeiraidd mewn gwyddorau cymdeithas. Mae’n trafod yr amrediad o ddulliau ymchwil sydd ar gael i gymdeithasegwyr a’r tybiaethau athronyddol sydd yn sail i’w gwaith. Cynlluniwyd y modiwl o gwmpas nifer o weithdai, a bydd yn rhoi ichi brofiad ymarferol mewn nifer o feysydd ymchwil, gan gynnwys chwilio am wybodaeth, dadansoddi cynnwys, arsylwi a chynllunio holiaduron.

20 credyd Semester 1 a 2

Ystyrir beth yw polisi cymdeithasol a thrafodir syniadau a chysyniadau allweddol yn y maes. Cyflwynir ideolegau gwahanol mewn perthynas â lles cymdeithasol a rôl y wladwriaeth, a rhoddir ystyriaeth i sut mae polisïau cymdeithasol yn cael eu llunio, eu gweithredu a’u cyllido.

Cyflwyniad i Gynllunio Ieithyddol

20 credyd Semester 2

20 credyd Semester 1 a 2

Cyflwyniad i sgiliau astudio a datblygiad galluoedd llafar ac ysgrifenedig yng nghyddestun sgiliau cyflwyno a methodoleg amgylcheddol/hamdden. Mae’r modiwl yn cynnwys asesiad parhaus mewn Technoleg Gwybodaeth.

DXC1303

Methodoleg Maes

10 credyd Semester 2

Cyswllt : Dr Paula Roberts p.roberts@bangor.ac.uk

Modiwl ymarferol sy’n cynnwys uned maes preswyl ar y cyd rhwng prifysgolion Bangor, Aberystwyth ac Abertawe. Mae’r modiwl yn datblygu sgiliau a thechnegau maes Daearyddol ac Amgylcheddol. Mae’n gyfle gwych i gydweithio drwy gyfrwng y Gymraeg gyda myfyrwyr o sefydliadau eraill yng Nghymru. Nid oes arholiad gyda’r modiwl: bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu trwy gynhyrchu portffolio. Mae’r modiwl yn cyflwyno’r ystod o sgiliau sydd eu hangen ar wyddonwyr a daearyddwyr modern. Mae’n cynnwys darllen am faterion cyfoes penodol, gan gynnwys cynaladwyedd. Bydd dosbarthiadau rheolaidd (gyda hyd at 5 myfyriwr ym mhob dosbarth) yn cael eu cynnal gyda thiwtor addas yn dibynnu ar y cwrs gradd. Bydd elfen gref o greu cynllun datblygu personol a datblygu sgiliau ysgrifennu a chyflwyno llafar. Bydd yn gyfle da i feithrin hyder a sgiliau amlbwrpas. Mae lefel y credydau yn ddibynnol ar ba fodiwlau eraill mae myfyrwyr unigol yn dewis eu gwneud yn eu blwyddyn gyntaf.

DXC1006

Gwaith Maes – Creu Eryri

20 credyd Semester 2

20 credyd Semester 1

Ysgol Gwyddorau Biolegol

£

BSC1018

Tiwtorialau Blwyddyn Un

20 credyd Semester 1 a 2

Cyfres o ddosbarthiadau tiwtorial i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth gwyddonol. Cymorth cyffredinol ar gyfer yr ystod gyfan o fodiwlau.

BSC1030

Sgiliau Ymarferol 1

20 credyd Semester 1

Dosbarthiadau yn ymwneud â sgiliau rhifedd, cyflwyno a llythrennedd gwyddonol.

BSC1031

Sgiliau Ymarferol 2

20 credyd Semester 2

Rhoi profiad o ystod o ddulliau a ddefnyddir mewn arbrofion ym maes bioleg gyfoes, o ymchwiliadau i foleciwlau a chelloedd i astudiaethau ar organebau ac ecosystemau cyfan. Cyswllt: Marian Pye m.pye@bangor.ac.uk

Ceir cyflwyniad i’r prif theorïau cymdeithasegol, gan ganolbwyntio ar bersbectifau ffwythiannaeth a theori 20

20 credyd Semester 1 a 2

Mae cyfleoedd ychwanegol i wneud gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg mewn modiwlau lle mae darlithydd sy’n siarad Cymraeg yn cyfrannu at y dysgu.

Gwaith maes yn edrych yn uniongyrchol ar y prosesau daearegol, amgylcheddol a dynol sy’n cyfrannu tuag at dirlun, a strwythur cymunedol a diwydiannol Eryri.

SCS1004 Cymdeithaseg a’r Byd Cyfoes

SCY1006

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i faes cyffredinol Cynllunio Ieithyddol yng Nghymru drwy ddiffinio, nodi pwrpas a chynnig cyd-destun cyfreithiol i ieithoedd lleiafrifol. Cyflwynir sfferau trosglwyddo iaith am y tro cyntaf i fyfyrwyr gan nodi pwysigrwydd y teulu, y gymuned, y system addysg a’r gweithle wrth drosglwyddo ieithoedd lleiafrifol. Cyswllt : Dr Myfanwy Davies myfanwy.davies@bangor.ac.uk Dr Rhian Hodges r.s.hodges@bangor.ac.uk

SCP1002 Cyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol

20 credyd Semester 1 a 2

Daearyddiaeth Dynol

Mae’r modiwl yma yn cyflwyno meddylfryd daearyddol i gysyniadau globaleiddio – gofod a lle, pobl ac amgylchedd, trefoli, tlodi a datblygu, hunaniaeth a gwahaniaeth, poblogaeth, mudo, ethnigrwydd a chenedlaetholdeb, a chynaladwyedd. Byddwn yn ystyried y berthynas eang ac integredig rhwng pobl a’u lle mewn amgylchedd naturiol, eu sefyllfa economaidd a gwleidyddol.

ONC1001 Dadansoddi Data Amgylcheddol

DXC1004

21


COLEG GWYDDORAU NATURIOL

COLEG GWYDDORAU IECHYD AC YMDDY GIAD

Ysgol Gwyddorau Eigion

Ysgol Gwyddorau Meddygol

ONC1001 Dadansoddi Data Amgylcheddol

MSC1019

Ymarfer Da’r Labordy

10 credyd Semester 1

20 credyd Semester 1 a 2

Yn y modiwl hwn cyflwynir amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy sy’n bwysig mewn gwaith labordy. Bydd darlithoedd a sesiynau ymarferol yn egluro cysyniadau’n ymwneud â materion iechyd a diogelwch, rheoli amser ac ysgrifennu adroddiadau. Caiff technegau labordy sylfaenol, a’r defnydd a wneir ohonynt, eu cynnwys a’u hasesu.

Mae’r modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau a ddefnyddir yn gyffredin gan wyddonwyr naturiol. Mae’n cynnwys sgiliau TG, defnydd effeithiol o’r cyfleusterau chwilio’r llyfrgell, cyfrifiadau mathemategol sylfaenol, y dull gwyddonol, dadansoddi ystadegol, a dylunio arbrofol.

OSC1000

Tiwtorial 1

20 credyd Semester 1 a 2

MSC1020

Ymarferion Biofeddygol

20 credyd Semester 1 a 2

Cyfres o ddosbarthiadau ymarferol yn y meysydd Biocemeg, Ffisioleg, Microbioleg a Geneteg. Ymweliadau ag ysbytai a chwmnïau priodol.

Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno’r ystod o sgiliau sydd eu hangen er mwyn llwyddo wrth ddilyn cwrs gradd yn y maes Gwyddorau Eigion. Bydd y myfyrwyr yn sgwrsio a chyfathrebu am egwyddorion a phroblemau gwyddonol.

MSC1022

Cyflwyniad Meicrobioleg

10 credyd, Semester 1

Cyflwyniad i agweddau ar ficrobioleg glinigol gan gynnwys bacteria, firws, ffwng a paraseit.

Cyswllt : Dr Katherine Griffith katherine.griffith@bangor.ac.uk

MSC1021

Ffisioleg Dynol

Cyflwyniad i wahanol agweddau o ffisioleg dynol, yn cynnwys esboniad o’r prif organau. Cyswllt: Merfyn Williams merf.williams@bangor.ac.uk Jason Saunders Williams j.s.williams@bangor.ac.uk

Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd

ran cysylltiadau personol, cydnabod hawliau a rhwymedigaethau a rhoi gofal wedi’i seilio ar dystiolaeth.

£

NAC1204 NSC1204

Modiwlau dwyieithog yw’r rhain o fewn y rhaglen Baglor mewn Nyrsio:

NAA1202 NAS1202

Diben y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i chi o systemau’r corff, ynghyd â ffactorau sy’n dylanwadu ac effeithio ar iechyd, haint a salwch mewn cymdeithas. Byddwch yn datblygu gwybodaeth am anatomeg a ffisioleg, seicoleg a chymdeithaseg, a’r modd y defnyddir y rhain mewn ymarfer gofal iechyd.

Datblygu Nyrsio Oedolion 40 credyd Semester 1 a 2

Yn y modiwl hwn byddwch yn edrych ar rai o’r materion sylfaenol yn ymwneud â nyrsio oedolion gydol oes. Byddwch yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol ym maes nyrsio oedolion i ymwneud ag unigolion a’u teuluoedd, gan gymryd yr agweddau ffisiolegol a seicolegol i ystyriaeth, ynghyd â’r dylanwadau cymdeithasol a geir mewn gwahanol amgylcheddau gofal iechyd. I’ch paratoi i ddarparu ar gyfer anghenion oedolion byddwch yn treulio 50% o’r modiwl hwn mewn amrywiaeth o leoliadau ymarfer. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ymarferol fydd yn eich paratoi i ddarparu gofal nyrsio tosturiol ac urddasol i oedolion.

NMA1202 Cyflwyniad i Nyrsio Iechyd Meddwl

40 credyd Semester 1 a 2

Yn y modiwl hwn byddwch yn edrych ar gyd-destun darparu gwasanaethau i bobl gydag anabledd dysgu. Bydd hyn yn cynnwys ystyried datblygiad hanesyddol gwasanaethau a materion allweddol sydd wedi dylanwadu ar bolisi ac ymarfer presennol. Conglfaen y modiwl hwn yw ein gwerthoedd fel ymarferwyr, ynghyd â chynhwysedd a dinasyddiaeth, ac ymarfer gwrth-wahaniaethol. Cynigir ystod o gyfleoedd asesu, yn cynnwys asesiad adolygol ymarfer clinigol.

NAC1202 NSC1202

Gofal Iechyd 1 (Nyrsio) 40 credyd Semester 1 a 2

Diben y modiwl hwn yw cyflwyno elfennau cyffredinol gwybodaeth a sgiliau y mae ar holl ymarferwyr gofal iechyd eu hangen, yn cynnwys egwyddorion gofal trawsffurfiol. Mae’r modiwl yn dechrau paratoadau i ymarfer gyda’r bwriad o roi sylfeini gwybodaeth a sgiliau a fydd yn galluogi myfyrwyr i gyflawni disgwyliadau’r cyhoedd, cleientiaid a’r cyrff proffesiynol perthnasol o 22

40 credyd Semester 1 a 2

Diben y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i’r gwerthoedd ac egwyddorion sy’n sail i ymarfer iechyd meddwl, sy’n rhoi gwerth ar amrywiaeth ac yn hyrwyddo adferiad. Caiff y myfyrwyr gyflwyniad i swyddogaethau craidd y nyrs iechyd meddwl o ran asesu a dulliau gofal iechyd, a byddant yn ystyried y ffactorau sy’n dylanwadu ar ddatblygu partneriaethau therapiwtig rhwng darparwyr gofal iechyd, a defnyddwyr gwasanaethau. Cyflwynir strategaethau sy’n cefnogi arbenigedd wrth ymwneud â defnyddwyr gwasanaethau a phrofiad o hyrwyddo lles ac adferiad meddyliol. Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynd i’r afael â’r cysyniadau a’r materion pwysicaf sy’n gysylltiedig ag ymarfer nyrsio iechyd meddwl; cynigir amrywiaeth o gyfleoedd asesu, yn cynnwys asesiad crynodol o ymarfer clinigol. Cyswllt: Dr Ruth Williams / Sharon Pierce / Beryl Cooledge r.w.williams@bangor.ac.uk s.a.pierce@bangor.ac.uk b.cooledge@bangor.ac.uk

NLA1202 Ymreolaeth a Chydraddoldeb

Gwyddorau Dynol 1 (Nyrsio) 40 credyd Semester 1 a 2

23


COLEG GWYDDORAU IECHYD AC YMDDYGIAD

Ysgol Seicoleg

£

PCC1001

Ysgrifennu a Chyfathrebu Gwyddonol I

10 credyd Semester 1

ANOVA, prawf chi-sgwâr ayb) a chynllunio project ac adroddiad ymchwil da sy’n dilyn canllawiau’r APA. Byddwch hefyd yn deall pwysigrwydd materion moesegol ym myd Seicoleg. Bydd y modiwl yma yn ehangu eich dealltwriaeth o ymchwil seicolegol fel eich bod wedi’ch paratoi ar gyfer eich project yn yr ail flwyddyn.

Bydd y modiwl yn cynnig sail dda i fyfyrwyr mewn seicoleg sylfaenol, ac yn eu cyflwyno i wahanol feysydd o fewn seicoleg. Cyflwynir y deunydd ar ffurf darlith yn y lle cyntaf, wedyn, bydd y myfyrwyr yn ymchwilio ymhellach i’r deunydd, a hynny mewn grwpiau bychain. Byddant yn trafod erthyglau gwyddonol, rhaglenni dogfennol a materion cyfoes o bersbectif seicolegol, ac yn cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig.

PCC1003

Ysgrifennu a Chyfathrebu Gwyddonol II

10 credyd Semester 2

Cyswllt: Dr Awel Vaughan-Evans a.vaughan-evans@bangor.ac.uk

Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac £ Ymarfer

Dulliau Ymchwil ac Ystadegau I

20 credyd Semester 1

Cyflwynir dulliau ymchwil â’u defnydd mewn Seicoleg yn y modiwl hwn. Byddwch yn dysgu sut i adolygu’r llyfryddiaeth; cynllunio arbrawf; ffurfiau casglu data; defnyddio pecyn meddalwedd SPSS; cyfrifo a dehongli dadansoddiadau ystadegol, a sut i gyflwyno canlyniadau ymchwil. Byddwch yn cydweithio mewn grwpiau bychain, ac yn helpu eich gilydd i gynllunio arbrawf a defnyddio technegau methodolegol Seicoleg.

PCC1004

Dulliau Ymchwil ac Ystadegau II

20 credyd Semester 2

Sgiliau Ymchwil

20 credyd Semester 2

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r sgiliau ymchwil hanfodol sydd eu hangen ar fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau o fewn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae’n cynnwys: ffyrdd y gall cwestiynau ymchwil mewn chwaraeon, iechyd ac addysg gorfforol gael eu gofyn a’u hateb, ystadegau disgrifiadol, ystadegau casgliadol elfennol, profi rhagdybiaeth, egwyddorion fesur; datblygu sgiliau ymchwil, dadansoddi a dehongli data, a chyfathrebu ysgrifenedig. Bydd seminarau bach yn cael eu cynnal yn Gymraeg, gyda’r opsiwn i gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu Saesneg.

Bydd y seminarau hyn yn cynnwys materion fel sylfeini biolegol ymddygiad, gwybyddiaeth, seicoleg gymdeithasol, seicoleg iechyd, a seicoleg glinigol. Bydd y materion yn cael eu cyflwyno ar ffurf darlith yn gyntaf, ac wedyn caiff y myfyrwyr drafod y materion gyda’i gilydd mewn grwpiau bychain. Bydd hyn yn datblygu eu dealltwriaeth o feysydd allweddol ym maes Seicoleg gan ddefnyddio iaith ffurfiol, ac yn datblygu eu sgiliau ysgrifenyddol gwyddonol.

PCC1002

JXC1001

JXC1017

Ffisioleg Dynol

20 credyd Semester 1 a 2

Nod y modiwl hwn yw rhoi i’r myfyrwyr y wybodaeth sylfaenol am ffisioleg dynol sy’n angenrheidiol i ddeall yr agweddau ffisiolegol o ymarfer corff a chwaraeon a drafodir mewn modiwlau dilynol. Mae’r myfyrwyr hefyd yn cael eu cyflwyno i’r ymatebion ffisiolegol acíwt i ymarfer, a dulliau pathoffisiolegol mewn clefydau fel arfau ar gyfer deall ffisioleg dynol sylfaenol yn well, ac fel sylfaen ar gyfer modiwlau yn y dyfodol. Bydd y sesiynau labordy yn cael eu cynnal yn Gymraeg gyda’r opsiwn i gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu Saesneg.

JXC1021 Sgiliau portffolio ac academaidd

10 credyd Semester 1

Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio i wella eich sgiliau academaidd sylfaenol. Mae’r sgiliau hyn yn drosglwyddadwy, a byddant yn cefnogi eich sgiliau dysgu mewn modiwlau eraill. Ymdrinnir â sgiliau llyfrgell, sut i beidio â llen-ladrata, darllen ac ysgrifennu academaidd, cyfeirnodi, rhifedd, sgiliau cyflwyno, ac Excel.

JXC1024

Gweithgareddau ymarferol ar y tir 1

10 credyd Semester 1 a 2

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau ymarferol sylfaenol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau antur diogel ar y tir. Yn ogystal â gweithgaredd ymarferol, ceir sesiynau byrion yn y dosbarth, gyda’r bwriad o atgyfnerthu’r gwaith paratoi ac adfyfyrio dilynol sy’n gyson â datblygu dulliau ymarfer da o weithio yn yr awyr agored. Y prif weithgareddau yr ymdrinnir â hwy fydd cerdded mynyddoedd, dringo dan do, micro fordwyo a sgramblo mewn ceunentydd. Cynhelir y sesiynau ymarfer yn ddwyieithog, gyda’r dewis o gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg.

JCX1025

Addysgu Gweithgareddau Campfa ac Athletau

10 credyd Semester 1

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau ymarferol sylfaenol, ac ymwybyddiaeth dactegol, sy’n gysylltiedig â chymryd rhan yn ddiogel mewn chwaraeon. Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau, gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ofynion chwaraeon, ac yn dod i ddeall y paratoi sy’n gydnaws â datblygu ymarfer da wrth gymryd rhan mewn chwaraeon. Cynhelir darlithoedd a sesiynau ymarferol yn ddwyieithog, gyda’r dewis o gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg.

JXC1026

Pedagogeg

10 credyd Semester 2

gysylltiedig â chymryd rhan yn ddiogel mewn athletau, dawns, gymnasteg a nofio. Bydd yn rhoi profiadau i’r myfyrwyr gael datblygu eu sgiliau, gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ofynion athletau, dawns, gymnasteg a nofio, ac yn creu sefyllfaoedd er mwyn datblygu’r nodweddion personol, generig sy’n galluogi unigolion i weithredu’n effeithiol fel unigolion ac fel aelod o grŵp. Cynhelir darlithoedd a sesiynau ymarferol yn ddwyieithog, gyda’r dewis o gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg.

24

Ymddygiad Seicomodurol

20 credyd Semester 1 a 2

Pwrpas y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddeall ymddygiad seicomodurol mewn perthynas â cymhelliant, hunan-gysyniad, hyder, straen a phryder, sgiliau seicolegol, prosesu gwybodaeth ac amser ymateb, cyfraniadau canolog a synhwyraidd i reoli modur, a sylw a gwybyddiaeth. Bydd seminarau bach yn cael eu cynnal yn Gymraeg, gyda’r opsiwn i gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu Saesneg.

JXC1040

Cyflwyniad i Wyddor Chwaraeon cymhwysol

10 credyd Semester 2

Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i agweddau ar wyddor chwaraeon sy’n berthnasol i gymwysterau hyfforddi Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol. Bydd yn cynnwys sgiliau ymarfer adfyfyriol, ac agweddau craidd ar wyddor chwaraeon sy’n berthnasol i hyfforddi sgiliau chwaraeon. Ymdrinnir ag elfennau cymhwysol ar seicoleg chwaraeon (e.e. cymhelliant a phennu amcanion), ffisioleg perfformio (e.e. cynllunio ymarfer a diet) a meithrin sgiliau (e.e. sylwadau). Bydd y darlithoedd yn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o gysyniadau damcaniaethol, tra bydd sesiynau seminar/ymarferol yn helpu i drosglwyddo’r wybodaeth i faes ymarferol hyfforddiant chwaraeon. Cynhelir seminarau bach yn Gymraeg, gyda’r dewis o gyflwyno gwaith yn Gymraeg neu yn Saesneg. Cyswllt: Dr Eleri Jones eleri.s.jones@bangor.ac.uk

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau ymarferol sylfaenol sy’n

Yn y modiwl hwn byddwch yn dysgu sut i ddewis y prawf ystadegol cywir (prawf-t,

JXC1027

25


COLEG GWYDDORAU FFISEGOL A CHYMHWYSOL

Ysgol Cemeg FXC1101

Cemeg 1

10 credyd Semester 1

£

profiad ymarferol yn y defnydd o bob un o’r dulliau dadansoddol canlynol: Uwch fioled/ Delweddu, Radiocemeg, Cromatograffeg Haen Denau, Cromatograffeg Nwy, Cromatograffeg Hylifol Pwysedd Uchel, electrocemeg sylfaenol, Meintioli metelau ac anfetelau, diffreithiant pelydr-x ac electronau, Is-Goch, sbectrometreg fas, cyseinedd magnetig niwclear, a Defnyddio Cyfuniad o Dechnegau.

Mae’r modiwl yn rhoi cyflwyniad cytbwys integredig i gemeg. Mae’r modiwl wedi ei rannu i dair rhan – a) Adeiledd a bondio, b) Bondio cofalent, siapiau moleciwlau, a’r tabl cyfnodol a chyfnodedd, c) Cemeg organig.

FXC1103

Cemeg 2

20 credyd Semester 2

Ein Cemeg Ni

10 credyd Semester 2

10 credyd Semester 1

FXC1107

Labordy Cemeg 2

10 credyd Semester 2

Mae’r modiwl ymarferol hwn yn cynnwys cyfres o arbrofion sy’n ymdrin â thri phrif faes cemeg, sef cemeg anorganig, organig a ffisegol. Gan fod y modiwl yn barhad ar FXC1106, dewisir yr arbrofion er mwyn datblygu ymhellach y prif sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cemeg arbrofol ac i oleuo’r cefndir theoretig yr ymdrinnir ag ef yn ystod modiwlau darlithoedd cemeg.

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno prif ddosbarthiadau biomacrofoleciwlau a chyfansoddion naturiol sy’n actif yn feddyginiaethol a’r berthynas rhyngddynt. Bydd y pynciau a drafodir yn cynnwys cyflwyniad i fiomacrofoleciwlau (ee proteinau, carbohydradau ac asidau niwclëig) cemeg grwpiau gweithredol cynhyrchion naturiol, astudiaeth achos o gyfansoddyn sy’n actif yn feddyginiaethol a chyflwyniad i adweithedd ym myd natur, gan gynnwys elfennau hybrin, cyd-ffactorau a fitaminau. Rhoddir pwyslais arbennig ar enghreifftiau o gemeg sy’n gysylltiedig â bywyd bob dydd.

Medrau Mathemateg ar gyfer Cemegwyr

10 credyd Semester 1

anorganig (cemeg cyd-drefnol, cemeg metelau trosiannol, pacio solidau a systemau crisialog), organig (grwpiau gweithredol, cyfundrefn enwau moleciwlau organig ehangedig, mecanweithiau adweithiau, FGI) a ffisegol (cineteg a thermodynameg) drwy sesiynau datrys problemau.

Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i fathemateg a sut y cymhwysir mathemateg ym maes cemeg: rhifyddeg sylfaenol -ffracsiynau, aildrefnu hafaliadau; mathau o ddata a ffwythiannau; calcwlws.

FXC1113 Cemeg ar Waith 1

Cydofynion: FXC1101 Mae’r modiwl hwn yn atgyfnerthu’r cysyniadau sylfaenol a enillwyd yn FXC1101 mewn cemeg anorganig (priodweddau cyfnodol, siapiau moleciwlau gan ddefnyddio VESPR), organig (grwpiau gweithredol, cyfundrefn enwau moleciwlau organig, mecanweithiau adweithiau, saethau cyrliog) a ffisegol (egni arwahanol, bondio a chroesrywedd) drwy sesiynau datrys problemau.

FXC1114

Cemeg ar Waith 2

10 credyd Semester 2

Mae’r modiwl yn rhoi cyflwyniad i ddulliau offerynnol a ddefnyddir i ddadansoddi sylweddau a deunyddiau sy’n berthnasol i fyfyrwyr ar yr holl gyrsiau gradd sy’n seiliedig ar y gwyddorau. Mae’r modiwl wedi ei strwythuro i ddarparu cyflwyniad sylfaenol i offeryniaeth, dadansoddi a dehongli data dadansoddol. Cyflawnir hyn trwy gyfrwng darlithoedd ‘cysyniadau allweddol’ sy’n arwain at sesiynau labordai cysylltiedig. Mae’r pwyslais yn bendant iawn ar ddarparu 26

Cemeg Hanfodol

10 credyd Semester 1

Cyswllt : Dr Enlli Harper e.h.harper@bangor.ac.uk

Cydofynion: FXC1103 Mae’r modiwl hwn yn atgyfnerthu’r cysyniadau sylfaenol a enillwyd yn FXC1103 mewn cemeg

10 credyd Semester 1

Mae’r modiwl hwn yn rhoi’r sgiliau cemegol allweddol sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer yr holl raglenni cemeg e.e. lluniadu cemegol sylfaenol a’r gofynion cyfrifiannu sydd eu hangen ar gyfer yr holl raglenni cemeg. Mae’r modiwl hefyd yn cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy – gwneud nodiadau, ysgrifennu, dulliau chwilio am wybodaeth ac adolygu.

20 credyd Semester 1 a 2

FXC0010

Mae’r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad cytbwys i gemeg. Ymysg y pynciau a drafodir yn y darlithoedd y mae: adeiledd atomau a bondio, molau a chyfrifiadau mol, cydbwyseddau cemegol, asidau, basau a pH a byfferau, cyfradd adweithio a chemeg organig sylfaenol (cyflwyniad i grwpiau gweithredol a rhai adweithiau pwysig, isomeredd a chyfundrefn enwau). Ategir y modiwl gan ddosbarthiadau datrys problemau.

10 credyd Semester 1

FXC1111 Medrau Cyfrifiannu ac Astudio

FXC1105 Dulliau Offerynnol a Dadansoddol

Labordy Cemeg 1

Mae’r modiwl ymarferol hwn yn cynnwys cyfres o arbrofion sy’n ymdrin â thri phrif faes cemeg, sef cemeg anorganig, organig a ffisegol. Dewisir yr arbrofion er mwyn i’r myfyrwyr ymgyfarwyddo â’r prif sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cemeg arbrofol ac i oleuo’r cefndir theoretig yr ymdrinnir ag ef yn ystod modiwlau darlithoedd cemeg.

Mae’r modiwl yn rhoi cyflwyniad cytbwys integredig i gemeg (fel dilyniant i Cemeg 1). Mae’r modiwl wedi ei rannu i bump rhan – a) Cemeg y metelau trosiannol, b) Adeileddau cyflwr solid, c) Thermodynameg, (ch) Cineteg, (d) Cemeg grwpiau gweithredol (synthesis ac adweithiau), Ocsidio a rhydwytho.

FXC1104

FXC1106

FXC1112

27


COLEG GWYDDORAU FFISEGOL A CHYMHWYSOL

Ysgol Cyfrifiadureg

chefnogaeth ar gael yn y Gymraeg. Cyswllt : Dr Llyr ap Cenydd llyr.ap.cenydd@bangor.ac.uk

ICP1022 Hanfodion Rhaglennu (Programming Fundamentals)

10 credyd Semester 1

Ysgol Perianneg Electronig

Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i hanfodion rhaglennu: Mathau o data; strwythurau rheoli; dulliau; araeau; dogfennaeth systematig; mewnbwn / allbwn a gweithio gyda ffeiliau. Mae’r modiwl yn orfodol i bob myfyriwr sydd yn astudio Gwyddor Cyfrifiadurol, Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol a Peirianneg Electronig. Mae’r modiwl yn ymarferol ac yn cael ei asesu yn barhaus. Mae pob asesiad, adborth a chefnogaeth ar gael yn y Gymraeg. Mae sesiynau tiwtorial hefyd ar gael yn ddwyieithog.

Bydd y modiwl yn cyflwyno’r dull gwrthrychgyfeiriadol i weithredu a dylunio meddalwedd, nodweddion uwch o Java (gan gynnwys y Fframwaith Casgliadau Java (JCF) a Rhaglennu generig), ac algorithmau chwilio a didoli. Mae’r modiwl yn orfodol i bob myfyriwr sydd yn astudio Gwyddor Cyfrifiadurol a Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol, ac yn ddewisol i fyfyrwyr Peirianneg Electronig. Mae’r modiwl yn ymarferol ac yn cael ei asesu yn barhaus. Mae pob asesiad, adborth a chefnogaeth ar gael yn y Gymraeg. Mae sesiynau tiwtorial hefyd ar gael yn ddwyieithog.

Rhaglennu Hanfodol mewn C (Imperative Programming in C)

10 credyd Semester 2

10 credyd Semester 1

IEW1005

Dylunio Cylchedau

10 credyd Semester 2

Mae’r modiwl hwn yn darparu hanfodion dadansoddi cylched analog a dylunio, sy’n seiliedig ar ddyfeisiau arwahanol.

10 credyd Semester 2

ICP1029

Theori Cylchedau

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno prif dechnegau dadansoddi cylched, ac yn dangos sut fod hyn yn fframwaith allweddol mewn peirianneg electronig.

ICP1023 Rhaglennu Gwrthrych Gyfeiriadol (Object Oriented Programming)

IEW1007

Cyswllt : Dr Iestyn Pierce i.pierce@bangor.ac.uk

Bydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i’r iaith raglennu C wrth drafod damcaniaethau sylfaenol a rhoi profiad ymarferol o raglennu hanfodol, yn enwedig rheoli a strwythurau cof cyfrifiadur. Mae’r modiwl yn orfodol i bob myfyriwr sydd yn astudio Gwyddor Cyfrifiadurol a Peirianneg Electronig. Mae’r modiwl yma yn ymarferol ac yn cael ei asesu yn barhaus. Mae pob asesiad, adborth a 28


CANOLFAN BEDWYR

YN GEFN I’R GYMRAEG YN Y BRIFYSGOL

Rydym yma i’ch helpu i ddefnyddio’r Gymraeg Sgiliau Iaith

Technolegau Iaith

Cyrsiau ac adnoddau i helpu siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a dysgwyr rhugl i ddod yn fwy hyderus wrth siarad ac ysgrifennu. Cyrsiau paratoi at y Dystysgrif Sgiliau Iaith hefyd ar gael.

Meddalwedd Cysgliad i’ch helpu gyda gramadeg, geirfa a sillafu ac Ap Geiriaduron am ddim.

Cynllunio Gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyfieithu Cyfieithu traethodau myfyrwyr a chyfieithu cyflwyniadau myfyrwyr trwy’r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

Hefyd ar gael Llawlyfr Gloywi Iaith

Am fwy o wybodaeth: www.bangor.ac.uk/canolfanbedwyr @canolfanbedwyr



Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.